Tom Rolt
Tom Rolt | |
---|---|
Ganwyd | 11 Chwefror 1910 Caer |
Bu farw | 9 Mai 1974 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hunangofiannydd, awdur ffeithiol, cofiannydd, railway historian |
Adnabyddus am | Narrow Boat |
Priod | Sonia Rolt |
Gwobr/au | Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol |
Awdur o Loegr oedd Lionel Thomas Caswall Rolt (11 Chwefror 1910 – 9 Mai 1974). Roedd o’n arloeswr ym meysydd teithio camlesi a rheilffyrdd treftadaeth. Ysgrifennodd fywgraffiadau peirianwyr sifil pwysig megis Isambard Kingdom Brunel a Thomas Telford.
Daeth ei dad yn ôl i Brydain ar ôl weithio ar fferm gwartheg yn Awstralia, planhigfa yr yr India ac yn methu ennill ei ffortiwn yn Yukon. Collodd fwyafrif ei bres wrth bythsoddu a symudodd y teulu i bâr o fythynnod yn Stanley Pontlarge, Caerloyw.[1]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Astudiodd yng Ngholeg Cheltenham, a dechreuodd gwaith dysgu am dyniant stêm cyn dechrau prentisiaeth gyda’r cwmni Kerr Stuart yn Stoke, lle oedd ei ewythr, Kyrle Willans, yn brif beiriannydd datblygu. Prynodd Willans gwch camlas a gosododd peiriant stêm. Doedd hi ddim posibl cyfeirio’r cwch, a disodlwyd y peiriant stêm gan beiriant Ford model T.
Ceir
[golygu | golygu cod]Aeth Kerr Stuart i’r wal ym 1930, a datblygodd Rolt ddiddordeb mewn hen geir. Prynodd nifer ohonynt, gan gynnwys Alvis ‘Cefn Hwyaden’ 1924 y cedwydd am weddill ei oes.[2]
Prynodd rhan o bartneriaeth garej modur yn Hartley Wintney, Swydd Hampshire. Efo eraill, dechreuodd Clwb Hen Sbortsgeir ym 1934. Sefydlodd a helpodd i greu Ras Riwiau Prescott. Ysgrifennodd y llyfr Horseless Carriage ym 1959 yn erbyn masgynhyrchiad.[3]
Cressy
[golygu | golygu cod]Penderfynodd Rolt i fyw ar gwch, a phrynodd ‘Cressy’ oddi ar ei ewythr. Priododd Angela Orred ar 11 Gorffennaf 1939 ac aethant ar Gamlas Rhydychen.
Ail Ryfel Byd
[golygu | golygu cod]Gweithiodd ar beiriannau Merlin ar gyfer awyrennau Spitfire yn ffatri Rolls-Royce yng Cryw, ond yn fuan daeth cynnig o waith yn Ffowndri Cloch Aldbourne]] yn Swydd Wiltshire, lle gweithiodd o am dros flwyddyn. Ysgrifennodd o lyfr, ‘Painted Ship’, yn disgrifio taith gyntaf ‘Cressy’ ond nad oedd galw am lyfrau yn ymwneud â chamlesi. Ond cyhoeddwyd y llyfr gyda’r enw ‘Narrow Boat’ yn Rhagfyr 1944 a daeth o’n boblogaidd.
Cafodd Rolt lythyrau oddi ar Robert Aickman a Charles Hadfield, a ffurfiwyd y gymdeithas ym May 1946 gan y tri ohonynt. Roedd y camlesi wedi cael eu gwladoli ym 1947. Trefnodd Rolt ymdrech i atal cau Camlas Stratford-upon-Avon, a threfnodd Arddangosfa Dyfrffyrdd llwyddiannus, yn dechrau yn Llundain a theithiodd yr wlad. Awgrymodd cynnal rali cychod yn Market Harborough. Cafodd ffrae efo Aickman ym 1951 a diarddelwyd o’r gymdeithas. Gadawodd ‘Cressy’ ac aeth yn ol i aelwyd ei deulu yn Stanley Pontlarge. Gadawodd ei wraig i ymuno a sircws Billy Smart.
Andfonodd Rolt lythyr at y Birmingham Post ym 1954, a dechreuwyd hanes y Gymdeithas Warchod y Rhielffordd Talyllyn, a daeth o’n gadeirydd y gymdeithas.[4] ac wedyn i 'Railway Adventure'. Priododd Rolt Sonia Smith, cyn-actores. Roedd hi wedi bod yn aelod o Gyngor Gymdeithas y Ddyfrffyrdd Mewndirol.
Awdur
[golygu | golygu cod]Ysgryfennodd Rolt mwy o lyfrau yn y 50au, gan gynnwys awtobiograffiadau Isambard Kingdom Brunel.[5] Ym 1950, rhoddodd Rolt y Darlith Brunel cyntaf yng [[Coleg Brunel o Dechnoleg, y daeth yn brifysgol hwyrach ymlaen. [6], a siaradodd hefyd am George Stephenson a Robert Stephenson, a Thomas Telford.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ian Mackersey, Tom Rolt and the Cressy Years (Llundain: M & M Baldwin, 1985)
- ↑ "Gwefan Amgueddfa Genedlaethol Rhilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-03-08. Cyrchwyd 2022-12-20.
- ↑ L.T.C. Rolt, Horseless Carriage (Llundain: Constable, 1950)
- ↑ David Bolton, Race Against Time: How Britain's Waterways were Saved (Llundain: Methuen, 1990)
- ↑ Hanes y BBC[dolen farw]
- ↑ [1]